Cod Defnyddwyr ar gyfer Adeiladwyr Cartrefi
Mae Medra yn croesawu‘r Cod Defnyddwyr
Mae Medra yn croesawu’r Cod Defnyddwyr ar gyfer adeiladwyr cartrefi newydd fel haen ychwanegol o ddiogelwch i ddefnyddwyr. Ym Medra rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau ein bod yn darparu cartrefi o’r ansawdd gorau a gwasanaeth cwsmeriaid gwych.
Ein Siarter Gwasanaeth Cwsmer yw un o’r ffyrdd rydyn ni’n nodi ein hymrwymiad i chi. Wedi’i gynllunio i’ch helpu trwy gydol eich pryniant – ac ymhell ar ôl i chi symud – bydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth fanwl i chi.
Ein Siarter Gwasanaeth Cwsmer
- Byddwn yn darparu gwybodaeth fanwl i chi am eich cartref newydd a’n gweithdrefnau Gofal Cwsmer.
- Byddwn yn rhoi cymorth i chi ynglŷn â’r dewisiadau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.
- Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i chi ynglŷn â chynnydd dyddiadau adeiladu, y gwaith cyfreithiol a meddiannu.
- Byddwn yn dangos i chi lawer o nodweddion eich cartref newydd cyn i chi symud i mewn.
- Byddwn yn rhoi dogfennaeth i chi i’ch helpu chi i’ch tywys trwy’r gwahanol gamau o brynu cartref newydd, ei redeg a’i gynnal.
- Byddwn yn darparu gwasanaeth ôl-werthu defnyddiol ac effeithlon i chi, gan gynnwys yswiriant brys y tu allan i oriau.
- Byddwn yn darparu copi o’r Cod Defnyddwyr ar gyfer Adeiladwyr Cartrefi ichi pan fyddwch yn rhi eich enw ar eiddo a byddwn yn cadw at y gofynion y mae’n eu gosod arnom.
I gael mwy o wybodaeth am y Cod Defnyddwyr ar gyfer Adeiladwyr Cartref, ewch i https://www.consumercode.co.uk/